Prif Amodau a Thelerau
Cyflogir Nyrsys a Gofalwyr yn unol â'r graddfeydd a gyhoeddwyd gennym.
Cyflwynir taleb i'n defnyddwyr yn wythnosol, neu bob 4 wythnos os yw hynny'n well ganddynt.
Anelwn at lenwi pob cyhoeddiad ond pan na fedrwn gynorthwyo, ni chodir tâl.
Rhaid rhoi rhybudd o 24 awr o leiaf i'r cwmni os yw'r cwsmer am ganslo ymweliad sydd wedi ei drefnu. Codir tâl sy'n gyfwerth â 2 awr o waith os methwyd â chanslo ac os methwyd â rhoi llai na 24 awr o rybudd, onibai bod yr amgylchiadau'n eithriadol.
Gwna Cerecare ymdrech i ddarparu gofal parhaol a chyson, ond pan fydd gofalwr yn sâl neu'n absennol byddwn yn darparu aelod arall o staff.
Rhaid i'n gweithwyr gael llofnod naill ai'r defnyddiwr neu ei gynrychiolydd er mwyn gwirio pob ymweliad ar y daflen amser a ddarperir. Codir tâl ar y defnyddiwr yn unol â'r wybodaeth ar y daflen amser.
Gallai Cerecare derfynnu'r gwasanaeth a gynigir mewn achosion eithafol. Mewn achosion o'r fath anelwn at roi mis o rybudd.
Gall defnyddiwr derfynnu'r gwasanaeth a gynigir trwy roi mis o rybudd.
Ymrwymwn i gadw pob cyhoeddiad, ond petaem yn methu â chynnig cymorth, ni chodir tâl.